Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


20 Maerun/Coedcernyw


20 ardal gymeriad Maerun/Coedcernyw: tirwedd yn ymestyn dros gefnffen isel i'r gogledd o "ddraen dal dwr" bwysig. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 093)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

At ei gilydd mae'r dirwedd hon yn perthyn i'r cyfnod canoloesol, er dichon fod Ffos Drenewydd/Percoed yn nodwedd ddraenio Rufeinig.

Yr ardal hon, a elwir yn "Black Moores", yw'r un isaf yn y Gwastadedd cyfan. Yn ôl y traddodiad lleol cafodd "derw corsydd" cynhanesyddol a ddarganfuwyd yn y mawn, sy'n gorwedd ychydig o dan yr wyneb, eu golchi yno yn ystod llifogydd 1606.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Caelun cymysg wedi'i drefnu mewn blociau bach o gaeau hirsgwar, draen dal dŵr mawr a phwysig (Ffos Drenewydd/Percoed), canolfannau plwyfi (Maerun a Choedcernyw) ac aneddiadau amaethyddol gwasgaredig ar ymyl y ffen

Mae'r dirwedd hon yn cynrychioli ardal ymyl y ffen a chefnffen rhwng pentref Maerun yn y gorllewin a Pharc Tredegar yn y dwyrain. Yn ffin iddi i'r de mae Ffos Drenewydd/Percoed (ardaloedd 17 a 21).

Ymddengys fod Ffos Drenewydd/Percoed yn "ddraen dal dwr"; mae'n casglu dwr croyw o'r ucheldiroedd ac yn ei sianelu i mewn i Ffos Broadway sy'n llifo i'r arfordir. Dichon iddi ddyddio o'r cyfnod Rhufeinig, am ei bod yn debyg iawn i "Car Dyke" Swydd Lincoln yn Ffendir Lloegr.

Mae patrwm y caeau yn gymysg iawn, ond maent wedi'u trefnu gan mwyaf mewn blociau bach o gaeau hirsgwar, braidd yn wahanol i'r caeau cul hir a geir i'r de. Mae ymyl y ffen wedi'i finfylchu'n ddwfn gan gyfres o ddyffrynnoedd bach, ac mae hyn ynghyd â sawl ynys o "greigwely" yn creu'r argraff ei fod wedi'i amgáu gan yr ucheldiroedd. Mae gwrychoedd a blannwyd yn ddiweddar, a fyddai'n ased yn ardal 18 a 19, yn gwbl anghydwedd â'r ardal hon.

Ceir nifer o ffermydd o amgylch ymyl y ffen, ynghyd ag eglwys Coedcernyw ac eglwys Maerun.

Tirwedd agored iawn ydyw, yn nodweddiadol o'r cefnffeniau isel. Prin yw'r gwrychoedd, sy'n rhoi golygfeydd ardderchog o ymyl y ffen/ymylon y creigwely.

Ystyrir bod yr ardal hon wedi cadw ei chyfanrwydd a'i chydlyniant i raddau helaeth. Cymharol brin yw'r ardaloedd o gefnffen isel sydd wedi goroesi lle y mae'r ffin ag ymyl y ffen wedi'i chadw. Mae'r ardal hon yn enghraifft ardderchog, a chanddi amrywiaeth eang o elfennau tirwedd; mae'r eglwysi ym Maerun a Choedcernyw, a chyfres o ffermydd ar ymyl y ffen yn edrych drosti. Mae Ffos Drenewydd/Percoed yn bwysig dros ben at ddibenion draenio'r Gwastadeddau, a dichon iddi ddyddio o'r cyfnod Rhufeinig. Mae'r ardal yn un anghysbell a thawel ar y cyfan, a phrin yw'r datblygiadau sy'n amharu arni.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk